Tuesday 12 May 2009

Celfyddyd Perfformio

Yn ystod ehangiad Oriel Mostyn mae ein Swyddog Addysg, Bernadette Rippon, yn gweithio ochr yn ochr gyda Ceri Rimmer, artist perfformio blaenllaw ac ymarferydd Dawns, i ddarparu gweithdai celfyddyd perfformio i ysgolion.

Bob mis rydym yn edrych ar wahanol thema a seilir ar arddangosgfeydd Oriel Mostyn yn y gorffennol neu ddylanwad Oriel Mostyn ar Landudno a Gogledd Cymru.

Bob dydd Sadwrn rhwng 1.30pm a 2.30pm, ar ôl pob wythnos o weithdai, gwahoddir myfyrwyr i ymuno â Bernadette a Ceri i gyfrannu i sesiwn ‘celfyddyd fyw’ mewn gwahanol rannau o Landudno. Mae’r sesiynau awr hyn yn cymryd y technegau a’r sgiliau a ddysgwyd yn y gweithdai ac yn eu haddasu i gynnig i’r cyhoedd rywbeth y medrant ei wylio neu ymuno ynddo!

Dyma’r themâu rydym eisoes wedi edrych arnynt:

Ffordd Fictoraidd
Fe’i dewiswyd oherwydd y gred mai Oriel Mostyn oedd yr oriel gyntaf a godwyd i ddangos celfyddyd gwragedd. Edrychodd myfyrwyr ar foesgarwch gwahanol dynion a gwragedd a’u cymharu â’r dydd heddiw i ysbrydoli perfformiad. Buo, yn gweithio hefyd ar greu portreadau proffil. Cynhaliwyd y perfformiad yng Ngerddi’r Gogledd-Orllewin



Ein Natur ni, eich Natur chi
Edrych ar artistiaid a ysbrydolir gan Ogledd Cymru ac artistiaid sy’n chwarae ar briodweddion ac ymddygiad pobl. Bu’r myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ar ddarn perfformio byr gan greu croglenni lliwgar a ysbrydolwyd gan eu lluniadau.
Cynhaliwyd y perfformiad yng Ngerddi’r Gogledd-Orllewin


Y Môr a’r Synhwyraidd
Dylanwadodd artistiaid lleol fel Tim Pugh a Nicholas Hughes ar y gweithdai hyn i’n hysbrydoli ni i edrych ar y môr ac felly ar ein synhwyrau. Datblygodd y disgyblion berfformiad a defnyddio cyfryngau cymysg i greu gweithiau celfyddyd unigol. Cynhaliwyd y perfformiad ar y Bandstand, Promenâd Llandudno









Dyddiadau yn y Dyfodol:
23.05.09 – Mythau, Mabinogion ac Uwcharwyr. Penygogarth – Happy Valley

20.06.09 – Ein Diwylliant Cymreig Ni, Eich Diwylliant Cymreig Chi. Gerddi’r Gogledd-Orllewin

11.07.09 – Portreadau a Finnau! Dechrau yng Ngerddi’r Gogledd-Orllewin – Gorffen ar y Bandstand, Promenâd Llandudno

No comments:

Post a Comment