Tuesday 12 May 2009

Gweithdai Ysgol Betws Y Coed



Bu Bernadette Rippon, Swyddog Addysg Oriel Mostyn, yn gweithio hefo oll ddisgyblion Ysgol Betws - Y - Coed i greu dehongliad media gwahanol o dirlun Betws - Y - Coed.

Bu’r disgyblion yn braslunio eu cynlluniau o Betws ac wedyn gwiethio hefo’i gilydd i gyfuno syniadau pawlb. Babanod, blwyddyn 1 a 2 yn gwiethio ar yr awyr a’r mynyddoedd, yn defnyddio papur sidan bob lliw, papur newydd, tap parsel, mod roc, a paent acrylic. Blwyddyn 3 a 4 yn cynllunio y llyn, yr afon, y rhaeadr a pont ac yn defnyddio gwahanol wlan, gliter, glud PVA a cerig man llechi. Yn olaf bu digyblion blwyddyn 5 a 6 yn dewis rhai o’r adeiliadau yn Betws - Y – Coed, a gafwyd eu pigo allan o het!!! Ddefnyddwyd cardfwrdd, papur newydd, mod roc a paent.

No comments:

Post a Comment